1.  Cyflwyniad

Mae’r BBC yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn.

Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae’r sector ffilm a theledu yng Nghymru wedi tyfu’n sylweddol. Mae nifer o gynlluniau sy’n cydblethu - rhai yn greadigol, rhai oherwydd polisi economaidd - wedi cyfrannu at y tirlun cynhyrchu cyfoethog sydd gennym heddiw.

O safbwynt y BBC, mae'r penderfyniad strategol i wario mwy o’i refeniw cynhyrchu y tu allan i Lundain ac i helpu i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer drama yng Nghymru wedi helpu i sbarduno’r newid hwn. Oherwydd yr ymrwymiad strategol hwn, mae’r BBC a nifer o gwmnïau annibynnol yn cynhyrchu rhai o raglenni teledu mwyaf poblogaidd ac eiconig y gorfforaeth yng Nghymru.

Mae’r rhain wedi cynnwys y gyfres, Doctor Who, sy’n boblogaidd ar draws y byd; conglfaen amserlen BBC One ar nos Sadwrn, Casualty a chynhyrchiad llwyddiannus Hartswood o Sherlock, wedi ei selio ar glasur Syr Arthur Conan Doyle. Bydd y stori greadigol ac economaidd hon yn parhau wrth i Bad Wolf baratoi i ddechrau ffilmio’r addasiad o drioleg Philip Pullman, His Dark Materials, maes o law.

Yn fwy diweddar, mae llwyddiant cyfresi fel Y Gwyll/Hinterland, Un Bore Mercher/Keeping Faith, Craith/Hidden (cyd-gomisiynau gan y BBC ac S4C) wedi’n galluogi i sicrhau bod llwyddiant creadigol Cymru yn y maes cynhyrchu hefyd yn helpu i bortreadu’r wlad yma yng Nghymru ac i’r byd ehangach.

Rydym hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldeb fel darlledwr cyhoeddus i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu medrus. Nod llawer o gynlluniau datblygu'r BBC yw denu talent newydd i’r diwydiant a hefyd cryfhau’r sgiliau sy’n ofynnol i weithio i’r BBC a darlledwyr eraill.

 

 

2.  Cynyrchiadau'r BBC y tu allan i Lundain - Strategaeth Cyflenwi’r Rhwydwaith

Roedd yr Adolygiad o faes Cyflenwi'r Rhwydwaith (Network Supply Strategy - NSR) yn strategaeth flaenllaw yng nghyfnod Siarter blaenorol y BBC. Fe arweiniodd yr adolygiad at newid sylweddol yn y maes cynhyrchu ar gyfer y rhwydwaith y tu allan i Lundain. Fe gynyddodd buddsoddiad rhwydwaith y BBC mewn cynyrchiadau teledu y tu allan i'r M25 o ychydig dros 30% i dros 50% yn 2016. Ar draws y tair gwlad ddatganoledig, fe gododd cyfran y gwariant ar gynhyrchu o 7% i 17% erbyn 2016. Mae’n werth nodi bod Channel 4 yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi ymrwymo i ddilyn strategaeth o’r fath.

 

Yng Nghymru, mae’r ymrwymiad hwn gan y BBC yn cael ei adlewyrchu mewn gofyniad rheoleiddio i sicrhau bod o leiaf 5% o wariant ar gynyrchiadau rhwydwaith yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru. Mae hyn yn awr yn cael ei nodi yn Nhrwydded Weithredu’r BBC - ynghyd â gofyniad newydd y dylai 5% o oriau rhwydwaith mewn perthynas â rhaglenni gwreiddiol, yn ogystal â gwariant, gael eu cynhyrchu yng Nghymru. 

 

Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, mae’r BBC wedi rhagori’n gyson ar yr isafswm targed gwariant o 5% yng Nghymru. Yn 2016/17, roedd gwariant y BBC ar raglenni teledu rhwydwaith yng Nghymru - fel canran o’r gwariant cymwys cyffredinol - yn 5.8% o’r refeniw,[1]  sy’n cyfateb i £54.8m mewn gwariant.[2]

 

Roedd polisi’r BBC o ran cyflenwi’r rhwydwaith (NSR) yn ceisio datblygu arbenigeddau clir mewn ardaloedd gwahanol yn y DU i wneud yn siŵr fod nifer digonol o gynyrchiadau mewn lleoliad i sicrhau lefelau cynaliadwy o fusnes i gefnogi talent a’r gwaith o ddatblygu sgiliau dros gyfnod o amser. Lle bo modd, roedd y dewisiadau hyn yn seiliedig ar ecoleg cyflenwi a chomisiynu lleol, cryfderau oedd yn bodoli eisoes, a pha gyfleusterau oedd ar gael, ond heb gael eu cyfyngu gan y rhain.

Yng Nghymru, bu'r BBC yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau datblygu sgiliau a chyllido lleol, a hefyd gyda Llywodraeth Cymru, i weld lle roedd prinder o ran sgiliau a seilwaith ac i lunio atebion lle bo modd.

Wrth gwrs, mae’r tirwedd darlledu wedi newid yn ddramatig yn ystod cyfnod yr NSR. Mae’r BBC yn wynebu cystadleuaeth sylweddol o ran amser cynulleidfaoedd ac mae angen i ni wneud mwy i wella ein perfformiad gyda chynulleidfaoedd iau yn arbennig. Mae’r her o greu rhaglenni a fydd yn apelio at gynulleidfaoedd ar draws y DU, gan gynnwys straeon sy’n adlewyrchu cynulleidfaoedd amrywiol y DU yn ehangach, yn fwy nag erioed.

Mae’r BBC hefyd yn wynebu cystadleuaeth sylweddol am dalent, hawliau a syniadau, sy’n arwain at chwyddiant prisiau. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gael y gwerth am arian gorau posibl ym mhopeth rydym yn ei wneud. Yn achos ein cynyrchiadau ffeithiol arloesol, a’n rhaglenni comedi a drama, mae hyn yn golygu rhoi'r llwyfan mwyaf i'r cynnwys er mwyn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl.

 

3.  Cynyrchiadau BBC Studios yng Nghymru

3.1  Am BBC Studios

Tan fis Ebrill 2017, roedd cynyrchiadau teledu mewnol y BBC yn cynhyrchu 50% o gynnwys teledu rhwydwaith cymwys. Mae’r sicrwydd hwn wedi'i ddileu o dan y Siarter bresennol - sy’n golygu bod y BBC yn agored i gystadleuaeth agored a llawn. I gyd-fynd â’r newid hwn, daeth yr holl gynyrchiadau teledu mewnol - y tu hwnt i newyddion, chwaraeon a materion cyfoes - yn rhan o is-gwmni masnachol sy’n perthyn yn gyfan gwbl i’r BBC, BBC Studios, sy’n gallu cynhyrchu cynnwys ar gyfer darlledwyr ar draws y byd ond sydd bellach heb y sicrwydd o ennill y cynyrchiadau mewnol.

BBC Studios bellach yw prif gangen cynhyrchu'r BBC. Cafodd ei lansio â chenhadaeth i gynhyrchu cynnwys o safon uchel ar gyfer cynulleidfaoedd yn y DU ac ar draws y byd.

Mae BBC Studios yn dod â gwneuthurwyr rhaglenni arbenigol at ei gilydd a’r rheini â phrofiad enfawr o’r grefft o gynhyrchu ar gyfer y teledu ac yn cael eu sbarduno i ddarparu rhai o’r rhaglenni gorau a mwyaf creadigol yn y DU. Mae’n cynhyrchu cyfresi poblogaidd sy’n dychwelyd ar gyfer y BBC. Mae hefyd yn datblygu ac yn cynnig syniadau newydd i ennill busnes oddi ar y BBC a darlledwyr eraill.

Mae gan BBC Studios saith canolfan ranbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys safle mawr yng Nghaerdydd. Mae ymrwymiad BBC Studios i gynnal gweithgarwch cynhyrchu yng Ngwledydd a Rhanbarthau'r DU yn ganolog i’w hunaniaeth a’i allu i ennill busnes.

 

3.2 Cynyrchiadau BBC Studios yng Nghymru

Mae BBC Studios yn cynhyrchu cynnwys rhwydwaith a chynnwys heb fod gynnwys rhwydwaith o’i ganolfan yng Nghymru.  Caerdydd yw’r brif ganolfan ar gyfer cynhyrchu drama y tu allan i Lundain. Mae dwy gyfres rhwydwaith sylweddol yn cael eu cynhyrchu gan BBC Studios o Borth y Rhath: Casualty a Doctor Who.

Mae BBC Studios hefyd yn cynhyrchu cynnwys ffeithiol a cherddoriaeth o Gymru, gan gynnwys y gyfres yn ystod y dydd Bargain Hunt, Crimewatch Roadshow a rhaglenni o'r Eisteddfod Genedlaethol a BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Mae cynnwys nad yw’n gynnwys rhwydwaith sy’n cael ei gynhyrchu gan BBC Studios yn cynnwys Pobol y Cwm ar gyfer S4C ac X-Ray ar gyfer BBC Wales.

 

3.3   Blaenoriaethau Strategol

Mewn marchnad gystadleuol iawn, mae BBC Studios yn darparu ffynhonnell sylweddol a sefydlog o Eiddo Deallusol ar gyfer y BBC, gan greu gwerth i gynulleidfaoedd ac enillion i’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y BBC ei gynllun i uno BBC Studios â BBC Worldwide, is-gwmni'r BBC sy’n gyfrifol am werthu cynnwys y BBC ar draws y byd. Bydd hyn yn creu un cwmni a all sbarduno creadigrwydd yn fwy byth ym Mhrydain.

Mae canolfannau cynhyrchu BBC Studios y tu allan i Lundain yn hanfodol i’w strategaeth a bydd ei ganolfan yng Nghymru yn parhau’n ganolog i lwyddiant ei raglenni drama’n benodol. Bydd y BBC Studios newydd yn parhau i adeiladu ar gryfder mawr ei arbenigedd cynhyrchu yng Nghymru ar gyfer datblygu Eiddo Deallusol newydd sy’n werthfawr yn fyd-eang drwy gomisiynau gan y BBC yn ogystal â darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a masnachol eraill. 

 

 

 

3.4       Stiwdios Porth y Rhath y BBC

Prif ganolfan BBC Studios yng Nghymru erbyn hyn yw Stiwdios Porth y Rhath ym Mae Caerdydd. Pan symudodd y cynyrchiadau drama cyntaf i Borth y Rhath ym mis Medi 2011, gwnaethant gyflawni un o ymrwymiadau’r BBC i greu canolfan ragoriaeth ar gyfer drama yng Nghaerdydd. 

Â'r ganolfan wedi’i lleoli ym Mhorth Teigr, Bae Caerdydd, y  cyfleuster 170,000 troedfedd sgwâr hwn bellach, sy’n cynnwys naw stiwdio ac yn cyfateb i hyd tri chae pêl-droed, yw cartref parhaol ac phwrpasol tair cyfres ddrama nodedig y BBC - Casualty, Pobol y Cwm a Doctor Who - yn ogystal â chynyrchiadau newydd yn y dyfodol. 

Nod BBC Studios yw bod yn ganolbwynt ar gyfer cynaliadwyedd creadigol, gan ddod â thalent at ei gilydd a galluogi gwybodaeth ac arbenigedd i gael ei rannu ac i lifo ar draws yr holl gynyrchiadau sydd wedi'u lleoli yno. Yn ogystal â'r tair cyfres sydd wedi bod yn cael eu cynhyrchu ers amser maith, mae Porth y Rhath hefyd wedi bod yn gartref i gynyrchiadau fel addasiad Russell T Davies o A Midsummer Night’s Dream, Shakespeare, Upstairs Downstairs a Class BBC Three.

Ar hyn o bryd, mae trydydd Doctor Who ar ddeg, Jodie Whittaker - ynghyd â’r actorion Bradley Walsh, Tosin Cole a Mandip Gill - yn ffilmio’r gyfres newydd o’r rhaglen sy’n hynod boblogaidd ar draws y byd. Bydd yn cael ei darlledu ar BBC One yn ystod yr hydref.

Â'r gyfres bellach wedi bod ar y teledu ers deugain mlynedd, Pobol y Cwm ydy’r opera sebon gan y BBC sydd wedi bod ar y teledu hiraf. Mae’r rhaglen, sydd wedi’i lleoli yn mhentref dychmygol Cwmderi, yn cael ei darlledu bum noson yr wythnos ar S4C. O’r trafodaethau ar fraslun y stori i ysgrifennu'r sgriptiau terfynol yn barod i'w ffilmio, mae’r broses ysgrifennu’n cymryd rhwng saith a naw mis a’r ffilmio’n cymryd ryw chwe wythnos cyn darlledu.

Mae tua 250 o benodau o Pobol y Cwm yn cael eu ffilmio bob blwyddyn o’i gymharu â 30 pennod yn yr 1970au a’r 1980au. Mae’r actorion a’r criw yn ffilmio tua 16-18 o olygfeydd yn y stiwdio bob dydd, sef tua 20 munud o ddigwydd sy'n cyfateb i ryw 80 tudalen o sgript bob dydd, sy’n llawer mwy nag unrhyw opera sebon arall ym Mhrydain.

Fe ddathlodd Casualty – un o gonglfeini amserlen nos Sadwrn BBC One - ei phen-blwydd yn 30 oed yn 2016. Ers symud o Fryste i Gaerdydd yn 2011, mae wedi ffilmio dros 300 o benodau yn Mhorth y Rhath. Cafodd y set ei hadeiladu i sicrhau y gallai'r ddrama feddygol ffilmio’r golygfeydd 360 gradd sy’n rhoi’r profiad cyflawn i'r gynulleidfa o'r hyn sy’n digwydd. Gydag ymgynghorwyr meddygol ar y set i roi cyngor a chyfarwyddiadau i actorion Casualty ar sut i ddefnyddio cyfarpar meddygol yn gywir ac i ddarllen y sgriptiau i wneud yn siŵr eu bod yn gywir ac mor realistig â phosibl, mae aelodau cast Casualty hyd yn oed yn cysgodi meddygon a nyrsys go iawn mewn adran Damweiniau ac Achosion Brys i'w paratoi ar gyfer eu rhannau.

 

4.  Cynyrchiadau teledu annibynnol yng Nghymru ar gyfer y BBC

Mae’r sector annibynnol yng Nghymru wedi bod yn gyflenwr sylweddol i deledu rhwydwaith y BBC a BBC Cymru Wales ers blynyddoedd.  Mae'r cynyrchiadau pwysig yn cynnwys Sherlock (Hartswood), Y Gwyll/Hnterland (Fiction Factory), The Hour (Avanti), Aberfan: The Green Hollow (Vox Pictures) a Rhod Gilbert’s Work Experience (Zipline).

Mae cyfresi ffeithiol eraill gan y sector annibynnol yng Nghymru yn cynnwys Sue Perkins Ganges gan Folk films, Only Connect gan Parasol Media a phytiau rheolaidd ar gyfer The One Show gan Alfresco.  

Gan adeiladu ar enw da Cymru am raglenni drama gwych, bydd y BBC yn darlledu tair cyfres ddrama newydd wedi’u cynhyrchu gan gwmnïau annibynnol yn 2018 - i gyd wedi’u lleoli a’u ffilmio yng Nghymru.

Roedd Requiem - a ddangoswyd ar BBC One ar draws y DU ym mis Ionawr eleni - wedi’i lleoli ym mhentref dychmygol Penllyneth a’i ffilmio o gwmpas Dolgellau, Casnewydd a Chaerffili. Mae hon yn gyfres 'ias a chyffro’ seicolegol o chwe rhaglen a’r prif actorion yw Lydia Wilson, Tara Fitzgerald a Richard Harrington. Cafodd ei gwneud gan y cwmni annibynnol, New Pictures ar gyfer BBC One a Netflix, ei chreu a’i hysgrifennu gan Kris Mrksa a'r cyfarwyddwr oedd Mahalia Belo.

Yn fwy diweddar, cafodd Keeping Faith - gyda Eve Myles - ei dangos ar BBC One Wales. Cafodd y gyfres ei chyd-gomisiynu gan S4C a BBC Cymru, ac fe gynhyrchwyd y gyfres wyth rhan gan Vox Pictures. Bu'r gyfres yn boblogaidd iawn â gwylwyr yng Nghymru a hefyd â chynulleidfa ehangach ar BBC iPlayer. Y gyfres hon eisoes yw drama fwyaf llwyddiannus y BBC heb fod yn ddrama rhwydwaith - gyda’r cynulleidfaoedd uchaf ers bron i 25 mlynedd. Hyd yma hefyd, cafwyd 8 miliwn o geisiadau i wylio’r gyfres ar BBC iPlayer

Ym mis Mai eleni, bydd y ddrama newydd Hidden – a ddangoswyd ar S4C yn gynharach eleni o dan y teitl Craith – yn cael ei darlledu ar BBC One Wales a BBC Four. Severn Films a gynhyrchodd y ddrama.

 

5.    Gweithlu ar gyfer y dyfodol

Mae’r sector diwydiannau creadigol wedi tyfu’n gyflym yng Nghymru dros y degawd diwethaf, ac mae BBC Cymru yn falch o fod wedi cyfrannu’n sylweddol at hyn. Mae’r ymrwymiad hwn i'w weld mewn amrywiaeth eang o raglenni datblygu talent sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth â'r sector ehangach.

Mae BBC Cymru hefyd yn falch iawn o'r hyn mae wedi’i wneud i ddenu talent newydd i'r busnes i alluogi cenhedlaeth newydd i wneud eu marc yn y diwydiant a llenwi bylchau yn y farchnad sgiliau

5.1 Prentisiaethau

Ar hyn o bryd, mae BBC Cymru yn cynnig dros bump ar hugain o brentisiaethau bob blwyddyn ar draws ystod eang o feysydd technegol a chynhyrchu.

Mae'r rhain yn amrywio o gyfleoedd hyfforddi ym maes cynhyrchu a newyddiaduraeth i brosesau darlledu a chreu cynnwys digidol.  Mae ein prentisiaethau’n rhoi cyfle i unigolion gael profiadau unigryw ac i weithio gyda rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant. Ar ôl i’r prentisiaid gwblhau eu cwrs, byddwn yn cynnig swyddi ar lefel mynediad y gallant wneud cais amdanynt gyda’u sgiliau a’u cymwysterau newydd

Lansiwyd y prentisiaethau yn 2012 ac mae llawer o'r prentisiaid sydd wedi cwblhau eu cyfnod yn gweithio ar leoliad yn parhau i weithio yn y diwydiant, naill ai yn y BBC neu yn y farchnad leol fel gweithwyr llawrydd neu i gwmnïau annibynnol.

Y flwyddyn nesaf, bydd y BBC yn cymryd cam strategol pwysig arall yn ei ymrwymiad i Gymru wrth iddo agor ei ganolfan ddarlledu newydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd. Bydd y cam hwn yn cwblhau rhaglen fawr o ail-fuddsoddi a moderneiddio ar draws Cymru, gan ddarparu'r cyfleusterau cynhyrchu a darlledu mwyaf datblygedig a geir yn unrhyw le yn Ewrop.

Fel rhan o’n cynlluniau, rydym ni wedi ymroi i ddarparu cyfleoedd hyfforddi newydd i dros 250 o bobl yn ystod y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys 20 o leoliadau ychwanegol ar gyfer prentisiaethau a hyfforddeion cyflogedig amser llawn yn y sefydliad. Gan weithio gyda Coleg Caerdydd a'r Fro, mae'r cyfleoedd newydd hyn yn agor y drws i unigolion o gymunedau a chefndiroedd sy’n teimlo nad ydynt, yn draddodiadol, wedi cael cyfle i fod yn rhan o’r diwydiannau creadigol.

5.2      Uprising

Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r elusen Uprising wedi bob yn gweithio i ddarparu hyfforddiant arwain a datblygu sgiliau i bobl ifanc o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc dan anfantais cymdeithasol. Ei genhadaeth yw rhoi gwybodaeth, rhwydweithiau, sgiliau a hyder i bobl ifanc i gyflawni eu potensial i arwain, i ddod o hyd i gyfleoedd newydd ac i weddnewid y byd o’u cwmpas drwy weithredu cymdeithasol.  Mae nifer o sefydliadau yng Nghaerdydd, gan gynnwys BBC Cymru yn bartner yn y cynllun gan ddarparu cyfleoedd mentora a datblygu i arweinwyr ifanc. Gellir gwneud cais yn awr ar gyfer cynllun arweinyddiaeth 2018.

5.3      It’s My Shout

Mae rhaglen ddatblygu It’s My Shout yn rhoi cyfleoedd ymarferol ym maes cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu. Mae’n targedu unigolion a grwpiau na fyddai fel arfer yn gallu cael gafael ar y cyfryw gyfleoedd.  Mae BBC Cymru yn bartner ac yn noddwr yn y cynllun (gydag S4C) - gan ddarparu mentora a hyfforddiant o flaen a thu ôl y camera ar gyfer y cyfranogwyr.   Bob haf, mae It’s My Shout yn cynhyrchu ffilmiau byr 30 munud yn Gymraeg a Saesneg, chwech ohonynt yn cael eu darlledu ar BBC Two Wales ac ar gael wedyn ar BBC iPlayer. Ochr yn ochr â hyn, mae cynllun ar gael hefyd ar gyfer talent newydd sy’n chwilio am syniadau ar gyfer rhaglenni dogfen. Mae’r rhain hefyd yn cael eu darlledu ar BBC Two Wales dan y teitl, New Voices from Wales.

 

5.4      Ffilm Cymru Wales - Beacons

Cyhoeddodd BBC Cymru ei bartneriaeth â Ffilm Cymru yn 2017.  Nod prosiect Beacons yw rhoi sylw i dalent eithriadol ym maes ffilm o Gymru, gan ddwyn sylw at awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, a’u helpu i sefydlu eu cymwysterau ar gyfer cynhyrchu rhaglenni. Eleni, bydd rhwng chwech a deg ffilm fer o hyd at 30 munud yn Saesneg neu yn Gymraeg yn cael eu creu.

 

 



[1] Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol y BBC (2016-7), t.37

[2]ibid, t. 93